Gwybodaeth Ardal Cymraeg

Dwi am gymryd bod unrhyw un sy'n darllen hwn ddim angen esboniadau ar ynganiad y geiriau, ond er bod hi'n debyg bod y rhan fwyaf hefyd yn gyfarwydd a'r wybodaeth sydd wedi ei gynnwys am yr ardal, roeddwn yn meddwl ella ei bod hi werth cael y wybodaeth yma yn y Gymraeg hefyd. Felly dyma ni:

Eifionydd

Yn ddaearyddol yr ardal sydd wedi ei ffinio yn fras gan Afon Erch, Afon Glaslyn (a Cholwyn), a'r tir uchel sy'n rhedeg ar hyd Grib Nantlle ymlaen tua'r Gyrn. 'Bro rhwng môr a mynydd' chwadal a'r bardd enwog R Williams Parry.


Wedi ei henwi ar ôl Eifion fab Dunod, ŵyr i Cunedda Wledig, a ddaeth o'r 'Hen Ogledd' (Manaw Gododdin, rhywle ogwmpas aber yr afon Forth, yn yr Alban, rhywle yn yml Caer Edin, ella Caer Edin ei hun!) i sefydlu teyrnas Gwynedd, yn ôl yn y dyddiau pan fyddent yn dal i siarad Cymraeg fyny yn y Golgedd hefyd. Ymysg disgynyddion Cunedda hefyd oedd Meirion (ŵyr arall) a enwyd Meirionydd ar ei ôl, Ceredig (ei fab) a enwyd Ceredigion ar ei ôl, Edern (mab arall) a enwyd Edeirinion ar ei ôl, a chydig hwyrach ymlaen Llywelyn Fawr, Llywelyn ein Llyw Olaf, a'u perthyn pell Owain Glyndŵr.


Llŷn

O ble ddaeth yr enw?

Yn syml, o'r Iwerddon. Gan ei fod ar ochr Orllewinol Cymru, a hefyd yn nes at Iwerddon nac at Loegr, yn ogystal a bod ar yr lan y môr, lle'r oedd yn haws trafeilio ar hyd y môr na'r tir yn y gorffenol, mae'r ardal wedi teimlo dylanwad Iwerddon yn hanesyddol. Rioed wedi clywed am Leinster, un o bedair talaith Iwerddon? Fe'i enwyd ar ôl y Laigin, un o brif lwythau'r ardal ar un adeg. Roedd yr un llwyth yma yn bresennol ar hyd arfordir Gorllewinol Cymru yn y cyfnod pan oedd dylanwad Rhufain ar drai, ac ar eu hol hwythau y mae Llŷn wedi cael yr enw. Gwelir yr enw yma hefyd yn enw un o hen gaerau Llŷn sef Dinllaen, enw sydd wedi ei gadw yn enw y pentref bychan a oedd ar un adeg ar fin ei ddatblygu yn brif borthladd i gario llythyrau i'r Iwerddon - dim llai na Phorthdinllaen.

A gan bod cerdd i Efionydd wedi ei chrybwyll yn barod ella ei bod mond yn deg i ddyfynu englyn J Glyn Davies (ia fo, y boi caneuon môr yna) i Lŷn:


Llŷn

Heulwen ar hyd y glennydd – a haul hwyr

A’i liw ar y mynydd;

Felly Llŷn ar derfyn dydd,

Lle i enaid gael llonydd.